Mewn mathemateg, ac yn benodol theori set, mae'r rhifau aleff yn gyfres o rifau a ddefnyddir i gynrychioli'r prifoledd (cardinality, neu faint) setiau anfeidraidd trefnus. Maent yn cael eu henwi ar ôl y symbol a ddefnyddir i'w dynodi, sef y llythyr Hebraeg aleph () (er bod rhai hen lyfrau mathemateg wedi'i hargraffu, ar ben i lawr, yn rhannol gan nad oedd y cysodwr yn yr argraffdy'n deall llythrennau Hebraeg!)[1][2]
Prifoledd y rhifau naturiol yw (ynganiad: aleph-naught neu aleph-sero; mewn Almaeneg, ac weithiau yn Saesneg, sydd hefyd yn defnyddio'r term aleph-null), a'r mwyaf a ddaw ar ei ôl yw aleph-un , yna ayb. Drwy barhau fel hyn, gellir ddiffinio rhif prifol am bod rhif trefnol (trefnolyn, neu ordinal number) α, fel a ddisgrifir isod.
Mae'r syniad a'r cysyniad o rifau aleph yn dod o waith y mathemategydd Georg Cantor,[3] a ddiffiniodd y syniad o brifoledd ac a ddaeth i'r casgliad fod gan setiau anfeidraidd wahanol brifoleddau.
Mae rhifau aleph yn wahanol i'r anfeidredd arferol o fewn calcwlws ac algebra. Mesur maint setiau mae'r aleph; mae anfeidredd, ar y llaw arall, yn cael ei ddiffinio'n aml fel y terfyn eithaf (neu'r cyfyngiad eithaf) o'r llinell rif real - a gymhwysir i ffwythiant neu gyfres sy'n cynyddu heb derfyn, hyd dragwyddoldeb!